Mae gwaith ffilm Chris Oakley yn archwilio cyd-destunau ffisegol, gwleidyddol a diwylliannol safle'r Wylfa. Mae safle ffisegol yr Wylfa rhwng y tir a'r môr yn ganolog i'r gwaith sy'n archwilio'r elfenau cyffelyb a geir yn anweledigrwydd sylfaenol y broses o ymholltiad niwclear a'r negeseuon diwylliannol a gwleidyddol mwy amlwg sydd wedi eu plethu o amgylch y diwydiant. Mae Oakley'n defnyddio triniaeth ddigidol i ddynwared ffenomena optegol awyrgylchol fel trosiad am yr agweddau hyn o ynni niwclear, sy'n aml yn wrthgyferbyniol, ac i gyfeirio'n gynnil at newid hinsawdd a'i rôl mewn dadleuon ynni. Mae'n dychmygu'r safle fel Fata Morgana, math o weledigaeth gymhleth sy'n ymddangos fel llinell gul uwchlaw'r gorwel a tharddiad y Flying Dutchman a chwedlau Crocker Land. Mae'r ymyriadau digidol hyn gyda'r ddelwedd yn adlewyrchu prosesau trawsnewidiad a thrawsffurfiad sy'n rhan greiddiol o ymholltiad niwclear, ac anhawster caffael y gwirioneddau am y diwydiant niwclear.

Chris Oakley's film work explores the Wylfa site’s physical, political and cultural contexts. Wylfa's physical situation at the junction of the land and sea is central to the work, which investigates parallels between the fundamental invisibility of the nuclear fission process alongside the more visible cultural and political messages woven around the industry. Oakley uses digital manipulations to mimic atmospheric optical phenomena as a metaphor for these often contradictory aspects of nuclear power, and to hint at climate modification and its role in energy debates. He envisages the site as a Fata Morgana, a complex form of mirage that is seen in a narrow band above the horizon and the origin of the Flying Dutchman and Crocker Land myths. These digital interventions in the image parallel the processes of transmutation and transformation inherent in nuclear fission, and the elusiveness of the truths surrounding the nuclear industry.

Mae Chris Oakley wedi gweithio gyda delweddau symudol a digidol ers canol y 1990au ochr yn ochr â gwaith mewnosod ac argraffu. Mae ei ddiddordeb mewn ffilm yn cael ei symbylu gan safle hwnnw fel cyfrwng torfol blaenllaw, nodwedd sy'n rhoi potensial unigryw iddo gael ei ddefnyddio fel gwrthgyferbyniad i naratif canolog. Mae ei waith yn archwilio'r ffyrdd y mae technoleg yn addasu ein profiadau o'r byd; y modd y mae'n gweithredu fel dylanwad ymyrgar a thrawsffurfiol ar ein hymwybyddiaeth. Mae'n archwilio byd ble mae gofyn i brofiad gael ei gyfiawnhau trwy gael ei recordio, ei olygu a'i rannu fel cynnwys digidol i sicrhau gwerth cymdeithasol. Rydym nawr yn awduro ein hatgofion ac yn ffurfio'r naratif sy'n angenrheidiol er mwyn cystadlu am sylw mewn 'amser cyfoes' parhaus, ble mae hanesion yn dod yn hyblyg ac yn cael eu hail-fowldio o hyd.

Mae gan Oakley MA mewn Cyfryngau Amser, ag yntau'n wreiddiol wedi rhoi ar fryd ar fynd yn beintiwr mewn ysgol gelf. Mae ei waith wedi ei arddangos ledled Ewrop ac yn rhyngwladol ac yn ddiweddar cyflawnodd ffilm artist hir gaiff ei rhyddhau yn 2016.

Chris Oakley has worked with moving and digital images since the mid 1990s, alongside installation and print works. His interest in film is motivated by its position as a dominant mass medium, which lends it unique potential to use in opposition to mainstream narratives. His work explores the ways in which technology modifies our experiences of the world; how it acts as a mediating and transforming influence on our consciousness. He explores a world where experience requires validation through recording, editing, and sharing as digital content to achieve a social value. We now author our memories and engineer narratives required to compete for attention in a constant present tense, where histories become plastic and are constantly remoulded.

Oakley holds an MA in Time-Based Media, having originally intended to become a painter at art school. He has exhibited widely across Europe and internationally, and has recently completed a feature length artist’s film scheduled to launch in 2016.